Celf a Dylunio

Gwneud i Adeiladau Edrych yn Fwy

Dechreuodd y pensaer Clough Williams-Ellis adeiladu ei bentref ffantasi ym Mhortmeirion yn 1925. Roedd am greu pentref Eidalaidd yng Ngogledd Cymru, ond nid oedd ganddo lawer o arian. Fe ddefnyddiodd ddeunyddiau rhatach fel concrid a metel dalennog. Fe wnaeth hefyd chwarae triciau gyda graddfa. Fe wnaeth yr adeiladau’n llai er mwyn arbed amser a deunyddiau wrth eu hadeiladu, ond fe wnaeth iddyn nhw edrych fel eu bod o lawn faint.

Un o’i driciau oedd persbectif gorfodol. Dyma pryd y bydd dylunwyr yn gwneud gwrthrychau’n llai fel eu bod yn edrych yn bellach i ffwrdd. Mae’r dechneg yma’n cael ei defnyddio yn y theatr i wneud iddi edrych fel bod adeilad neu ardd hir ar y llwyfan. Mae’r mwyafrif o adeiladau ym Mhortmeirion tua dwy ran o dair maint yr adeiladau gwreiddiol y maent yn eu hefelychu.

Campanile

Portmeirion

Tasg

Byddwch angen: bwrdd gwyn i ddangos fideos a delweddau.

Chwiliwch am enghreifftiau o leihau cymesur neu bersbectif gorfodol yn y daith fideo o amgylch Portmeirion.

  • Mae’r adeiladau wedi eu gosod ar lechwedd serth er mwyn gwneud iddyn nhw edrych yn dalach.
  • Mae’r clochdy yn culhau tuag at ei grib.
  • Gwnaeth i Fwthyn yr Uncorn edrych fel plasty anferth trwy ddefnyddio giât, grisiau a ffenestri wedi eu lleihau’n gymesur.
  • Mae’r gromen fawr tua hanner uchder adeiladau tebyg yn Yr Eidal.
  • Edrychwch ar bethau yn eich ystafell ddosbarth a meddwl sut fydden nhw’n edrych pe bae’n nhw yn ddwy ran o dair y maint. Er enghraifft, os yw’r drws yn 2 metr o uchder byddai’n 1.33 metr.

Ymweld

Gellir ymweld â phentref Portmeirion yng Ngwynedd.