Mae teipograffeg yn fath o ddylunio y byddwn yn ei weld trwy’r amser, er enghraifft mewn cylchgronau, papurau newydd, taflenni, posteri, gwefannau a rhaglenni teledu. Mae cydbwysedd yn helpu i ddenu darllenwyr. Mae’n helpu hefyd i wneud yr ystyr yn fwy clir (mewn dyluniad anghytbwys, mae’n bosibl y bydd darllenwyr yn anwybyddu rhai rhannau o’r dudalen ac yn methu gwybodaeth bwysig).
Mewn dyluniad cymesur, mae gwrthrychau sydd ar bob ochr i’r dyluniad yn debyg iawn. Mewn dyluniadau anghymesur gellir creu cydbwysedd gweledol trwy drwch, lliw, siâp neu leoliad y gwrthrychau (eu ‘pwysau’ gweledol).
Un o’r dylunwyr llyfrau mwyaf diddorol yng Nghymru yw Olwen Fowler. Edrychwch ar y tudalennau o’i dyluniad ar gyfer The Tradition: A New History of Welsh Art 1400-1990 gan Peter Lord i weld sut yr ydych yn credu eu bod wedi eu cydbwyso.
Mae’r tudalennau hyn wedi eu cydbwyso’n gymesur. Mae’r un faint o destun wrth droed y tudalennau ac mae’r ddau ddarlun tua’r un maint ac wedi eu gosod yn yr un man.
Mae’r tudalennau hyn wedi eu cydbwyso’n anghyfartal. Ar un ochr ceir ffotograff mawr o beintiad ac ar y llall ceir llawer o destun, delwedd a thestun ar ochr y dudalen. Mae pwysau gweledol y ddwy dudalen yn ymddangos yn debyg.
Tasg
Byddwch angen detholiad o lyfrau a chylchgronau.
Edrychwch ar wahanol fathau o lyfrau a chylchgronau.
- Ydych chi’n credu bod cydbwysedd rhwng y naill ochr a’r llall?
- Sut fydd dylunwyr yn gwneud i’r tudalennau gydbwyso?
- Sut mae’n effeithio ar y modd y byddwch yn edrych ar y pethau ar y tudalennau os ydyn nhw’n gytbwys neu’n anghytbwys?
Tasg estynedig
Byddwch angen papur cynllunio ac offer arlunio neu gyfrifiaduron gyda phecynnau dylunio neu brosesu geiriau.
Dyluniwch eich tudalennau eich hun gyda delweddau a thestun i weld sut y gallwch eu cydbwyso. Gweithiwch yn unigol neu mewn parau.
Cysyniadau rhifedd:
- Cydbwysedd
- Patrwm