Celf a Dylunio

Symudion

Yn y 1930au dyfeisiodd Alexander Calder, y cerflunydd o America, fath newydd o gerflun, sef y symudyn. Mae cydbwysedd yn hanfodol er mwyn gwneud i symudion weithio.

 Crinkly with Red Disk, Alexander Calder 1973
Crinkly with Red Disk, Alexander Calder 1973.

© Rufus46 [CC BY-SA 3.0 (http://creativecommons.org/licenses/by-sa/3.0/)]

Dechreuodd Calder hongian siapiau haniaethol ar rodenni. Y pwynt cydbwysedd oedd ble roedd y rhoden yn cael ei hongian neu ei chynnal. Roedd ei symudion yn anghymesur bob tro, ond roeddent yn gytbwys o ran pwysau neu fel arall fe fydden nhw’n dymchwel. Fe greodd Calder y cerflun mawr yma yn 1973 ar gyfer sgwâr yn Stuttgart, Yr Almaen. Ei enw yw Crinkly with Red Disk. Mae un cylch yn cydbwyso dau bolygon afreolaidd sydd ar y rhoden arall. Mae’r cydbwysedd yn dibynnu ar bwysau pob un o’r rhannau a ble y gosodir y pwynt cydbwysedd.

Gwyliwch rai o gerfluniau Calder yn symud ar y fideo yma:

Tasg

Byddwch angen darnau hir o wifren neu hoelbren, glud, monoffilament neu gortyn, cerdyn trwchus, bwrdd torri a chyllell, rhywbeth i grogi’r symudion arno.

Ewch ati i greu symudyn er mwyn rhoi tro ar gydbwyso gwahanol siapiau. Torrwch siapiau allan o’r cerdyn a’u hongian oddi ar y wifren neu’r hoelbren gyda’r monoffilament. Defnyddiwch ragor o fonoffilament i grogi’r symudyn o’r nenfwd neu far.

  • Pa mor wahanol allwch chi wneud siapiau sy’n cydbwyso ei gilydd?
  • Yw pethau’n newid os nad yw’r pwynt cydbwysedd yn y canol?