Celf a Dylunio

Cerfluniau

Mae gan bobl go iawn bob math o gyfraneddau. Er enghraifft, efallai bod ganddyn nhw goesau anghyffredin o hir neu fyr i’w maint. Ond yn aml, bydd gan gerfluniau gyfraneddau ‘delfrydol’. Fe gychwynnodd y syniadau hyn am gyfraneddau dynol ‘perffaith’ gyda cherfluniau Groeg a Rhufain yr henfyd.

Bydd artistiaid fel arfer yn mesur ffigurau bob yn ben. Mae’r diagram, o werslyfr ar anatomi ar gyfer artistiaid yn dangos ffigur sy’n 8 pen o daldra. O’r corun, 2 ben i lawr mae’r tethi. 3 phen i lawr mae’r botwm bol a’r penelinoedd. 4 pen i lawr (canolbwynt y ffigur) mae’r arddwrn â llinell ar draws y pen ôl. 6 phen i lawr mae bôn padell y pen-glin.

1Optimized-Figure-Drawing-Proportion.jpg

Roedd cofgolofnau i’r Rhyfel Byd Cyntaf yn aml yn cynnwys cerfluniau delfrydol o filwyr. Mae hon, yng Nghaerdydd, yn coffáu 105 o ddynion fu farw o Ysgol Eglwys Gadeiriol Llandaf a phentref Llandaf. Mae ffigur benywaidd anferth yn symboleiddio ysbryd Cymru. O boptu iddi saif bachgen ysgol a gweithiwr. Maent yn gwisgo dillad sy’n symboleiddio eu bywydau cyn y fyddin ond maent yn cario reiffl y fyddin. Crëwyd y cerflun gan Syr William Goscombe John yn 1924. Mae gan y ddau ffigur yma gyfraneddau ‘delfrydol’.

Gallwch edrych ar gofebau rhyfel eraill ledled Cymru ar wefan Casgliad y Werin. Mae llawer ohonynt yn cynnwys cerfluniau.

Ymweld

Gellir ymweld â:

  • Y gofeb ryfel hon ar y Lawnt yr ochr uchaf i Gadeirlan Llandaf, Caerdydd
  • Cofebau rhyfel lleol ar draws Cymru