Celf a Dylunio

Chwyddo mewn cyfrannedd

Mae Gwarcheidwad y Cymoedd yn ffigur anferthol o löwr gan Sebastien Boyesen ar safle gwaith glo Six Bells, lle lladdwyd 45 o bobl mewn ffrwydrad tanddaearol yn 1960. Mae’n gofeb a gwblhawyd yn 2010 er mwyn nodi 50 mlynedd ers y trychineb. Fe wnaeth y dylunydd ei adeiladu’n 20m o uchder er mwyn iddo gael ei weld o bell. Mae wedi ei greu o 20,000 o stribedi o ddur sy’n golygu ei fod yn dryloyw o rai safbwyntiau ond fel metal solet o safbwyntiau eraill.

Proportion-Pic-3.jpg

Mae sail y gwaith yn 7.4m o uchder ac mae’r ffigur sy’n sefyll arno’n 12.6m. Pe bai’n gallu tynnu ei helmed a’i esgidiau, mae’n debyg y byddai tua 12.25m.

Sawl gwaith yn fwy na bod dynol yw e? Taldra’r Cymro cyffredin yw 1.77m. Pe baech chi’n rhannu 12.25m gyda 1.77m mae hynny’n dweud wrthych fod y cerflun tua 6.92 gwaith taldra dyn cyffredin. Pa baem ni’n talgrynnu’r rhif, mae’r gyfrannedd tua 7:1.

Tasg

Byddwch angen pennau ysgrifennu neu bensiliau a dalenni mawr iawn o bapur.

Gweithiwch mewn parau neu grwpiau bychain i dynnu llun llaw sydd wedi ei chwyddo gymaint ag un Y Gwarcheidwad.

  • Gosodwch law yn fflat ar ddarn o bapur a thynnu llinell yn dynn o’i hamgylch.
  • Yn ofalus, mesurwch led y llaw a’i hyd at flaen pob bys.
  • Lluoswch eich mesuriadau i gyd gyda 7.
  • Gan ddefnyddio eich mesuriadau i’ch helpu, tynnwch lun y llaw 7 gwaith yn fwy.

Gallech roi tro ar fesur a thynnu lluniau gwrthrychau eraill ar raddfa 7:1, er enghraifft llyfr, pensil neu ffôn symudol.

Ymweld

Gellir ymweld â: