Celf a Dylunio

Dylunio haniaethol

Creodd yr artist o’r Iseldiroedd, Piet Mondrian, baentiadau oedd yn ymwneud â sgwariau a hirsgwarau lliw. Mesurodd y siapiau i greu’r hyn yr oedd e’n credu oedd yn gyfraneddau perffaith o un i’r llall.

Fe ddefnyddiodd ddu a gwyn ac ychydig o liwiau plaen, yn enwedig coch, glas a melyn. Mae llawer o bobl yn ystyried bod y paentiadau hyn yn llonydd ac yn hardd. Fe wnaethon nhw ddylanwadu ar lawer o artistiaid a dylunwyr. Cafodd ei syniadau eu copïo ar bosteri a chloriau llyfrau, mewn pensaernïaeth, ac mewn ffasiwn. Fe ddefnyddiodd grŵp roc The White Stripes ddelweddau tebyg ar gyfer clawr albwm yn 2000.

Composition-en-rouge-jaune-bleu-et-noir.jpg

Edrychwch ar Composition en rouge, jaune, bleu et noir (Cyfansoddiad mewn coch, melyn, glas a du). Os mesurwch chi’r siapiau fe ddewch o hyd i gyfraneddau diddorol.  

 

  • Mae’r sgwâr mawr coch yn hanner lled ac uchder sgwâr ffrâm y llun. 

  • Mae’r sgwâr du yn hanner uchder a lled y sgwâr coch.  

  • Mae’r hirsgwarau gwyn sydd agosaf i’r sgwâr du yn hanner ei uchder ac fel dau sgwâr wedi eu gosod at ei gilydd. 

  • Mae gwaelod ac ymyl dde’r sgwâr coch ar gymhareb euraid y paentiad. Yn ogystal, mae canol y sgwâr coch ar y gymhareb euraid.