Ddim yn Sgwâr
Fydd pob patrwm mosaig ddim yn defnyddio darnau sgwâr. Gallwch greu patrwm mosaig trawiadol gan ddefnyddio siapiau eraill.
Mae’r llawr hwn mewn bwthyn yng Ngheredigion wedi ei greu o gerigos hir. Mae’n debyg i’r perchennog gasglu’r cerigos gerllaw a’u gosod at ei gilydd yn ofalus. Nid yw llif y patrwm hardd yma wedi ei greu â lliw ond yn hytrach gan gyfeiriad y cerigos. Gallwch weld:
- stribedi llydan ble mae’r cerigos i gyd yn pwyntio tuag at ben yr ystafell
- sgwâr ger y drws ble mae’r cerigos yn pwyntio’r ffordd arall
- rhesi ble mae’r cerrig wedi eu gosod ar letraws er mwyn creu patrwm saethben
Mae lloriau fel hyn yn boblogaidd yn Sbaen. Dyma un ble mae cerigos hir mewn patrwm saethben yn creu stribedi i ffurfio patrymau cymhleth. Defnyddiwyd cerigos gwyn i lanw’r bylchau.
Patrwm saethben
Mae Craig Bragdy yn creu mosaigau anhygoel yn Ninbych heddiw. Edrychwch ar eu prosiectau ar gyfer lloriau a phyllau nofio. Ydyn nhw’n defnyddio’r un fath o ddarnau â mosaigau Rhufeinig neu rywbeth gwahanol? Ydyn nhw’n defnyddio’r un fath o liwiau a phatrymau?
Tasg
Naill ai taith maes mewn grŵp neu astudiaeth annibynnol. Ar gyfer ymweliadau grŵp, dylai athrawon gysylltu gyda chynrychiolwyr capeli neu eglwysi ymlaen llaw i sicrhau y byddant ar agor.
Yn aml mae gan eglwysi a chapeli loriau teils wedi eu creu o deils hecsagonol, sgwâr neu drionglog. Y lliwiau traddodiadol yw coch, du a gwyn, ond weithiau ceir lliwiau eraill a hyd yn oed batrymau wedi eu stampio i’r arwyneb. Ymwelwch ag eglwysi a chapeli lleol i edrych ar y lloriau ac atebwch y cwestiynau canlynol:
- Teils o sawl gwahanol liw sydd yno?
- Teils o ba wahanol siâp a ddefnyddiwyd?
- A yw’r teils wedi eu gosod i greu patrwm mwy o faint?
Ymweld
Gellir ymweld â:
- Eglwysi a chapeli lleol
- Pier Penarth i weld y llawr mosaig o waith Craig Bragdy