Celf a Dylunio

Y Sbiral Dwyllodrus

Pryd fydd sbiral ddim yn sbiral? Mae’r ddelwedd yma’n dangos llawer o sbiralau, yn tydi? Fe’i gelwir yn rith-sbiral Fraser a ’does dim sbiral yma o gwbl.

Dilynwch un o’r llinellau gyda’ch bys i ddysgu os yw hyn yn wir.

Mewn gwirionedd, y siapiau yr ydych yn eu gweld yw arcau a chylchoedd cyflawn. Ond mae eich llygaid yn cael eu twyllo ganddynt. Pe bai hon yn ddrysfa, fyddai dim ffordd i mewn nac allan ohoni! Mae’n profi, weithiau, bod angen ichi wirio siapiau’n ofalus er mwyn bod yn siŵr beth ydyn nhw.

15.4.1.png