Roedd George Seurat, yr arlunydd Ffrengig, yn defnyddio syniadau mathemategol i strwythuro ei gyfansoddiadau. Yn ei baentiad o gerddorion y tu allan i syrcas tua 1888, sydd bellach yn Amgueddfa Gelf y Metropolitan yn Efrog Newydd, fe wnaeth gynnwys lawer o linellau llorweddol a fertigol. Mae’r effaith yn un llonydd iawn. Gallwch fesur La parade de cirque i ddarganfod y strwythur.
Wnaeth Seurat ddim dilyn y llinellau’n rhy gaeth ond gwnaeth yn siŵr eu bod yn dal i’w gweld. Mae’r llinell ganol yn rhedeg trwy’r trombonydd - i lawr ei het, ar hyd llinell y trombôn ac i lawr ei goes syth. Mae’r llinell ganol lorweddol yn rhedeg trwy ei wasg, ar draws ysgwyddau’r cerddorion i’r chwith ac ar hyd llinell lorweddol lachar ar y dde. Mae nifer o wrthrychau neu siapiau’n dangos llinellau’r adran euraid.
Tasg
Gweithiwch mewn grwpiau bychain gyda chopïau o’r ddelwedd, ffon fesur, pennau ysgrifennu a chyfrifiannell, neu chwiliwch am ffordd i fesur y ddelwedd fel dosbarth cyfan.
- Mesurwch led y darlun.
- Rhannwch ei led gyda 1.618.
- Gwiriwch ei uchder i weld os mai dyma’r rhif y gwnaethoch ei weithio allan. Os yw’r ddau rif yr un fath, mae gennych betryal euraid. Os ddim, ceisiwch fesur yr uchder i waelod y rhes o oleuadau nwy. Yw’r adran yn betryal euraid?
- Defnyddiwch yr un rhif i fesur ar draws lled y darlun o bob pen a marciwch y ddwy adran euraid fertigol.
- A oes rhannau o’r cyfansoddiad yn ffitio gyda’ch llinellau?
- Mesurwch yr uchder a rhannwch y rhif hwnnw gyda 1.618.
- Defnyddiwch y rhif hwn i farcio'r ddwy adran euraid lorweddol.
- A oes nodweddion yn y darlun yn ffitio yn ei llinellau llorweddol?
- Dylai eich llinellau greu grid o sgwariau a phetryalau euraid llai. Ceisiwch fesur unwaith eto, i rannu’r petryalau gyda mwy o adrannau euraid ac i weld os oes mwy o wrthrychau a siapiau’n sefyll mewn llinell.