Daw celfyddyd origami o China a Japan. Mewn Japaneeg, mae ‘ori’ yn golygu plygu a ‘kami’ yn golygu papur - felly mae ‘origami’ yn golygu ‘plygu papur’. Y syniad yw creu siâp tri dimensiwn o ddalen o bapur. ’Dyw artistiaid origami ddim yn hoffi torri eu papur na defnyddio glud. Maen nhw’n gallu creu gwrthrychau anhygoel. Weithiau, defnyddir syniadau o origami mewn pensaernïaeth.
Mae origami hefyd yn gangen o geometreg. Os ewch chi ati i ddatod model origami bydd y plygiadau yn y papur yn dangos patrymau trionglau a sgwariau. Mae’n ffordd dda i ddysgu sut mae siapiau’n perthyn i’w gilydd.