Llinellau crwm sy’n mynd rownd a rownd un pwynt canolog wrth bellhau oddi wrtho yw sbiral. Maent yn siapiau deniadol mewn celf a dylunio ac maent i’w cael ym myd natur, er enghraifft mewn cragen malwoden neu mewn dŵr sy’n mynd i lawr twll y plwg.
Mae nifer o wahanol fathau o sbiralau. Y math symlaf yw’r sbiral rifyddol sy’n tyfu’r un faint gyda phob troad. Mae sbiral logarithmig yn tyfu’n gyflymach. Mae sbiral Fibonacci yn seiliedig ar ddilyniant rhifau Fibonacci. Gall sbiralau fod yn dri dimensiwn hefyd, er enghraifft grisiau tro neu sbiral o amgylch sffêr, sy’n tyfu’n lletach yn y canol ac yn gulach yn y top a’r gwaelod.
Mewn celf, mae sbiralau’n aml yn cyfleu dirgelwch. Maent yn sylfaen ar gyfer dylunio nifer o ddrysfeydd. Maent yn cael eu cysylltu weithiau gyda chredoau ysbrydol.