Rydyn ni gyd yn gwybod bod pethau sy’n agos atom yn edrych yn fwy na phethau sy’n bell i ffwrdd. Os edrychwch chi i lawr rheilffordd neu ffordd mae’n ymddangos ei bod yn culhau tan iddi ddiflannu yn y pellter. Sut fydd artistiaid yn dangos gwrthrychau a gofodau ar arwyneb fflat? Mae persbectif yn gyfres o dechnegau i’w helpu.
Dechreuodd artistiaid ddyfeisio technegau persbectif yn yr Eidal yn ystod y Dadeni. Roedd eu syniadau’n ddiddorol i fathemategwyr, aeth ymlaen i feddwl mewn ffyrdd newydd am geometreg a thafluniad.