Celf a Dylunio

Cydbwysedd a Chyfansoddiad

    Cyflwyniad

    Bydd llawer o artistiaid yn chwilio am gydbwysedd pan fyddant yn cyfansoddi delweddau. Gall cydbwysedd greu ymdeimlad o gytgord. Efallai y bydd yn helpu’r gwyliwr i edrych ar y ddelwedd gyflawn ac nid dim ond ar ran ohoni.

    Fydd y rhan fwyaf o wylwyr ddim yn meddwl sut y mae cyfansoddiad yn gweithio ond maent yn gwerthfawrogi’r effaith cyffredinol. Mae’n bosibl y bydd y syniadau y tu ôl i gyfansoddiad yn gudd. Mae cliwiau’n cynnwys lleoliad llinellau a lliwiau, y golau a’r cysgod, a siâp gwrthrychau.