Celf a Dylunio

Elips

    Cromlin sy’n creu math o hirgrwn yw elips. Gall elipsau fod yn gymharol grwn neu’n estynedig. Gwelir elipsau cyfan neu segmentau ohonynt yn aml ym myd natur. Mae enghreifftiau’n cynnwys y llinell y bydd planedau’n ei chymryd wrth droi o gwmpas yr Haul ac ymyl grom llawer o ddail planhigion, a’r llinell y bydd ffownten ddŵr yn ei chreu wrth i’r dŵr fynd i fyny a disgyn yn ôl i lawr. Os tynnwch chi linell ogwyddol o amgylch côn, mae honno’n elips hefyd.

    Mae elipsau cyfan a segmentau ohonynt yn siapiau defnyddiol mewn dylunio cynnyrch, pensaernïaeth a chelf.