- Pan fo llun yn sgwâr bydd ei uchder a’i led yr un fath, felly mae’r gymhareb yn 1 i 1. Yn hytrach, mae petryal euraid yn un ble mae’r ochr hir yn 1.618 gwaith yr ochr fer – cymhareb o 1.618 i 1.
- Adran euraid llinell yw’r pwynt ble mae cymhareb y rhan hiraf i’r rhan fyrraf yn 1.618. (Yn ddiddorol, 1.618 yw cymhareb y rhan hirach i'r llinell gyfan hefyd.)
Defnyddir y gymhareb euraid ym mhob math o gelf a dylunio i greu siapiau deniadol. Fe’i gelwir yn ‘euraid’ oherwydd bod ganddi rinweddau arbennig. Y defnydd pwysicaf ohoni mewn celf yw er mwyn creu petryalau euraid a rhannu cyfansoddiadau’n adrannau euraid. Bydd rhai artistiaid a dylunwyr yn gweithio'r rhain allan yn union ond bydd eraill yn gwneud yr hyn sy’n ‘edrych yn gywir’ ac yn dod i’r un canlyniad. Fe’u gwelwch mewn paentiadau, yn nyluniad ceir, yn nyluniad ffurfdeipiau ac mewn pensaernïaeth, yn ogystal ag mewn ffurfiau naturiol fel planhigion.
Mae’r gymhareb euraid yn seiliedig ar y rhif 1.618, a gaiff ei symboleiddio gan y llythyren Roegaidd ‘phi’.
Dyma’r un gymhareb a welir yn nilyniant Fibonacci, ble mae pob rhif (yn fras) yn 1.618 gwaith yr un o’i flaen (Pwnc 9).