Celf a Dylunio

Mosaig

    Cyflwyniad

    Mae mosaig yn batrwm neu ddelwedd wedi ei greu o ddarnau bychain sydd ddim yn gorgyffwrdd a heb fylchau rhyngddynt. Mae pobl wedi creu mosaigau ers miloedd o flynyddoedd. Maen nhw i’w gweld yn hen wlad Groeg, eglwysi’r Oesoedd Canol, palasau Islamaidd a chelf gyhoeddus fodern.

    Rydyn ni’n meddwl am fosaig yn defnyddio darnau o garreg neu wydr, ond gellir ei greu o ddarnau bychain o unrhyw ddeunydd sy’n ffitio gyda’i gilydd yn dynn. Gall y darnau fod yn sgwariau neu’n siapiau cymhleth. Gwelir enghreifftiau mewn lloriau teils, clytwaith, brodwaith, posau a chelf ddigidol. Gallwch weld rhywbeth tebyg ym myd natur, er enghraifft siapiau hecsagonol y diliau mêl mewn cwch gwenyn. Yr enw am y syniad ym mathemateg yw teilsio neu brithwaith (neu teseliad - o’r gair Lladin tesera am ddarn sgwâr o garreg a ddefnyddiwyd mewn mosaigau Rhufeinig).