Celf a Dylunio

Adlewyrchiad

Yn y llun arswydus hwn, peintiodd Alfred Janes y stori Feiblaidd am Salome a’i mam Herodias a’u cynllwyn i ladd Ioan Fedyddiwr. Fe’i peintiodd yn 1938, pan oedd yn 27 oed, yn ei gartref yn Abertawe. Creodd nifer o baentiadau yn ystod y cyfnod hwn oedd yn gytbwys ac yn llawn patrymau.

Yn ôl yr hanes, pan ddawnsiodd Salome o flaen y Brenin Herod dywedodd y byddai’n rhoi beth bynnag a fynnai iddi fel gwobr. Penderfynodd Salome a’i mam ofyn am ben Ioan Fedyddiwr oherwydd ei fod wedi dadlau gyda’i mam. Ni allai Herod dorri ei addewid, felly fe laddwyd Ioan a rhoddwyd ei ben i Salome ar blât. Bu’r stori hon yn bwnc i sawl artist. Mae hefyd wedi ei defnyddio mewn dramâu, operâu, dawnsiau bale a ffilmiau. 

Salome, Alfred Janes
Salome, Alfred Janes, 1938 © ystâd yr arlunydd

Defnyddiodd Janes gydbwysedd i fynegi pa mor oer oedd y cynllwyn rhwng Salome a Herodias. Gwnaeth y ddau ffigur bron yn adlewyrchiad manwl gywir o’i gilydd ar 90 gradd. Mae popeth yn creu llinellau manwl gywir rhwng y ddwy fenyw - eu haeliau, eu cegau, llinell eu gwallt, llinellau gyddfau eu ffrogiau, a gwasg y ddwy.

Fodd bynnag, mae’r holl gymesuredd yn y llun rhwng y ddwy fenyw. Mae popeth arall yn teimlo’n anghytbwys ac yn od er mwyn gweddu i’r stori erchyll.

Roedd gan Janes ddiddordeb mawr mewn patrwm. Mae tecstilau’r llenni a’r dillad yn cynnwys siapiau a ailadroddir, bron fel mosaig. Mae llawer o batrymau i ddod o hyd iddyn nhw os edrychwch chi’n fanwl:

  • Mae’r patrwm sydd wedi ei ailadrodd a’i gylchdroi ar y llenni yn dangos pen dyn gyda chleddyf wrth ei wddf.
  • Ar ffrog Herodias mae’r patrwm yn dangos pen Ioan gyda chleddyfau’n ymestyn oddi tano.
  • Ar gôt Salome gwelir pen Ioan wyneb yn wyneb, wedi ei gylchdroi.
  • Mae’r dorch o leiniau coch am wddf Herodias yn cyd-fynd â ble y torrwyd pen Ioan.
  • Yn ogystal, mae’r coch i’w weld o amgylch gwasg Salome ac yn y pwll o waed ar y plât.

Ymweld

Gellir ymweld â: