Weithiau mae artistiaid yn hoff o gynnwys siapiau cryfion yn eu paentiadau. Mae’r llun bywyd llonydd hwn gan John Bowen yn dangos bwyd ar fwrdd. Gallwch weld ei fod yn mwynhau siapiau geometregol rhai o’i wrthrychau - y tomato a’r sleisen o lemon crwn a’r pysgodyn a’r lemonau cyfan sydd bron yn hirgrwn. Fe ychwanegodd lawer mwy o siapiau geometregol. Mae’r lliain bwrdd wedi ei addurno â rhesi, cylchoedd, sgwariau a thrionglau. Yn lle dangos top y bwrdd mewn persbectif fe wnaeth ei osod fel sgwâr. Mae’r papur pinc o dan y pysgodyn bron â bod yn driongl. Mae’r papur wal wedi ei greu o linellau a dotiau.