Mae gan batrymau geometregol carthenni gwlân neu gwiltiau clytiau lawer yn gyffredin gyda mosaigau. Maent wedi eu seilio ar yr un syniad o greu delwedd o ardaloedd bychain o liw wedi eu gosod at ei gilydd heb ofod rhyngddyn nhw. Mewn clytwaith, caiff y darnau eu gwnïo ymyl wrth ymyl (gweler Pwnc 3, Enghraifft 1). Mewn gwehyddu, caiff y brethyn ei greu o edau sy’n croesi ei gilydd fel bod un yn y golwg ar y tro.
Mae traddodiad o wehyddu carthenni patrymog yng Nghymru. Mae dylunwyr cyfoes, fel Melin Tregwynt yn Sir Benfro, yn cynnal y traddodiad hwn. Mae eu gwefan yn cynnwys ffilmiau ar sut y byddant yn dylunio a gwehyddu (yn Saesneg).