Mae’r symbol a elwir yn drisgel yn filoedd o flynyddoedd oed. Gall enghreifftiau edrych yn wahanol iawn i’w gilydd ond mae gan bob trisgel dair cangen sy’n union yr un fath o amgylch canolbwynt, fel deilen feillion. Roedd y rhain yn bwysig iawn mewn Celfyddyd Geltaidd ac fe’u gwelir ar gerfiadau carreg, mewn llyfrau goliwiedig ac ar waith metel. Oherwydd bod ganddynt gymesuredd cylchdro, maent yn edrych yr un fath wrth ichi eu troi.
Un enghraifft enwog yw’r plac Oes Haearn a ganfuwyd yn Llyn Cerrig Bach ar Ynys Môn. Mae’n debyg ei fod yn dyddio o tua 100 CC ac efallai ei fod wedi ei osod ar flaen tarian neu gerbyd rhyfel. Mae’n ddalen o efydd a chafodd y patrwm ei forthwylio i mewn iddi o’r cefn.
Tasg
Byddwch angen pennau ysgrifennu neu bensiliau a phapur.
- Dilynwch y fideos i greu eich trisgel eich hun. Mae’r math yma’n symlach na’r un o Lyn Cerrig Bach ac mae’n fath o gwlwm Celtaidd.