Celf a Dylunio

Persbectif Tonyddol

Mae’r dechneg persbectif tonyddol neu awyrol yn dangos sut y mae pethau sy’n bell yn y dirwedd, fel arfer, yn ymddangos yn oleuach (heblaw am adegau pan fydd cymylau neu haul yn effeithio arnyn nhw). Fe astudiodd yr artist Cornelius Varley effeithiau golau ac atmosffer. Mae’r llun dyfrlliw hwn a baentiodd yng ngogledd Cymru tua 1805 yn cynnwys tua chwech gwahanol graddliw. Pe baech yn disgrifio graddliw neu dôn fel cyfrannau o 100% ar gyfer du a 0% ar gyfer gwyn, byddai’r awyr tua 10%, y creigiau tywyll ar y dde yn 50%, a’r bryniau’n 20% i 40%.

Sunlight-over-a-Lake-near-Snowdon.jpg
Sunlight over a lake near Snowdon © Rijksmuseum, Amsterdam

Fe wnaeth Kyffin Williams hefyd baentio mynyddoedd gogledd Cymru. Fe alwodd y paentiad hwn yn Meadows, Mist and Mountains. Mae ochr y mynydd yn y pellter mor olau mae’n hawdd iawn ei fethu. Mae’r ddau fryn creigiog yn y canol yn dywyllach oherwydd eu bod mewn amlinell. Mae’r blaendir yn llawer tywyllach.

LLGC-kwf00033.jpg
'Meadows, Mist and Mountains', Kyffin Williams