Y Penglog Dirgel
Mae un o’r enghreifftiau mwyaf adnabyddus o anamorffosis wedi ei chuddio mewn portread gan Hans Holbein. Enw’r llun yw TheAmbassadors a chafodd ei beintio yn 1533. Cafodd Holbein ei eni yn Yr Almaen ond ar ddiwedd ei oes bu’n byw yn Llundain ac yn gweithio i Frenin Harri’r VIII.
Mae’r peintiad yn dangos dau lysgennad Ffrengig ac mae’n llawn gwrthrychau sy’n ymwneud â gwyddoniaeth, y celfyddydau a mathemateg. Peintiodd Holbein bopeth yn fanwl gywir ond mae siâp rhyfedd sy’n hofran dros y llawr yn ymddangos yn gwbl wahanol. Mae hwn yn fath o anamorffosis a elwir yn ‘drawsnewid croesrym’, sy’n golygu ei fod wedi ei osod ar oleddf wysg ei ochr. Allwch chi ond gweld beth ydyw yn iawn drwy edrych arno o’r ochr.
Tasg
Byddwch angen: bwrdd gwyn, cysylltiad rhyngrwyd i Google Arts & Culture.
- Edrychwch ar y peintiad ar Google Arts & Culture fel y gallwch edrych yn fanwl ar yr holl wrthrychau a beintiodd mor ofalus a gweld pa mor od y mae’r penglog yn edrych.
Ymweld
Gellir ymweld â’r llun yn yr Oriel Genedlaethol yn Llundain.