Celf a Dylunio

Cyflwyniad

Siapiau cudd

Yn aml, bydd artistiaid yn meddwl am siapiau geometregol pan fyddant yn cyfansoddi eu lluniau. Mae Clive Hicks-Jenkins yn hoff o feddwl am drionglau yn ei baentiadau. Mae ei baentiad The Virgin of the Goldfinches yn Eglwys Gadeiriol Llandaf yn darlunio stori’r Beibl am yr angel yn dod i ddweud wrth Mair ei bod am gael babi. Fe wnaethom holi Clive Hicks-Jenkins am y darlun.