Celf a Dylunio

Patrymau Islamaidd

Mae’r Ystafell Arabaidd yng Nghastell Caerdydd yn deyrnged i batrymau Islamaidd gan y pensaer Fictoraidd, William Burges. Roedd penseiri Islamaidd hynafol wrth eu bodd gyda phatrwm ac fe ddatblygon nhw geometreg a chymesuredd cymhleth. Fe fydden nhw’n ailadrodd, yn cylchdroi ac yn adlewyrchu siapiau fel nad oedd un siâp yn gorbwyso’r gweddill ac roedd y patrwm yn ymddangos fel ei fod yn parhau am byth, fel y nefoedd. Yr enghreifftiau mwyaf gwych yw palasau’r Alhambra yn Sbaen, a adeiladwyd yn y 14eg a’r 15fed ganrif. Adeiladodd William Burges yr Ystafell Arabaidd yng Nghastell Caerdydd tua 1880.

Ceiling-arab-room-cardiff-castle.jpg
© Jvhertum [CC BY-SA 3.0 (https://creativecommons.org/licenses/by-sa/3.0)]

Defnyddiodd William Burges syniadau Islamaidd yn ei ffordd ei hun. Fel rhai o ystafelloedd yr Alhambra, roedd llawr ei ystafell yn sgwâr gan godi’n stepiau i fyny at nenfwd wythonglog. Ond roedd nifer o’r elfennau a ddefnyddiodd ddim yn Islamaidd, er enghraifft adar a phatrymau blodau arddull Fictoraidd.

ArabRoom.jpg
© Meagling [CC BY-SA 4.0 (https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0)]

Tasg

Byddwch angen bwrdd gwyn neu sgriniau eraill.

  • Edrychwch yn ofalus ar y llun ac ar yr agoslun o’r nenfwd.
  • Sawl aderyn sydd yn y canol?
  • Sawl pigyn sydd i’r seren yn y canol?
  • Sawl llinell cymesuredd sydd yn y seren ganol?
  • A yw’r llinellau cymesuredd yn ymestyn allan yn bellach na’r seren?
  • A yw’r adar yn cydweddu’n union gyda’r cymesuredd?
  • Sawl cromen gron sydd yna?
  • Sawl gwaith mae’r patrwm yn y cromenni yn cael ei ailadrodd?
  • Sawl llinell cymesuredd allwch chi eu gweld ar draws y cromenni?
  • Pa batrymau ailadroddol allwch chi eu gweld?

Ymweld