Mae llawer o ddylunwyr gerddi wedi bod â diddordeb mewn sut mae natur a chymesuredd yn gweithio gyda’i gilydd. Yng Ngerddi Bodnant ger Conwy mae cymesuredd caled yr adeilad yn cael ei feddalu gan lilïau’r dŵr ar y pwll a’r coed anwastad y tu ôl iddo. Fel llawer o erddi, mae Bodnant yn cynnwys ardaloedd sy’n gymesur sy’n creu cyferbyniad gydag ardaloedd eraill sy’n fwy gwyllt.
Gallwch weld llinell neu ‘echelin’ cymesuredd i lawr wyneb yr adeilad. Mae cymesuredd ar hyd echelin arall hefyd. Pe baech yn dychmygu ei weld o’r awyr, ar ffurf cynllun, mae’r llinell cymesuredd yn rhedeg i lawr canol y pwll a thrwy’r adeilad. Mae’r llun o’r pwll yn y nos yn ein hatgoffa bod gan y dylunydd ddiddordeb mewn cymesuredd arall hefyd - sef yr adlewyrchiad ar y dŵr.
Mae gerddi adnabyddus eraill yng Nghymru ble mae cymesuredd y cynllun yn bwysig yn cynnwys: Erddig ger Wrecsam, Dyffryn ger Caerdydd, Castell Powys ger Y Trallwng, Gardd Berlysiau’r Bont-faen, Gerddi Alexandra yng Ngerddi Cathays yng Nghaerdydd a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Efallai eich bod yn gwybod am barciau neu erddi yn eich ardal chi sydd ag elfennau cymesur.
Ymweld
Gellir ymweld â:
- Gerddi Bodnant, sy’n cael eu rheoli gan Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
- Gerddi a pharciau eraill