Mae cylchoedd yn siapiau crwm gydag un pwynt canolog sydd â’r un pellter i’r cylchyn. Mae gan elipsau ddau bwynt. Mae’r pellter i’r cylchyn yn adio i greu’r un cyfanswm, ble bynnag y byddwch yn mesur ohono.
Gallwch dynnu llun elips a gweld y llinellau a’r siapiau llyfn y mae’n eu creu.
Tasg
Gallwch gwblhau’r ymarfer yma gyda deunyddiau amrywiol.
- Yn yr ystafell ddosbarth gallech ddefnyddio papur gyda phinnau bawd, cortyn a phensil.
- Yn y maes chwarae gallech ddefnyddio cortyn a chreu’r llinellau ar lawr gyda sialc.
- Os oes traeth gerllaw gallech ddefnyddio cortyn a chreu’r llinellau yn y tywod gyda brigau.
- Defnyddiwch y diagram i’ch helpu.
- Dewiswch bwynt canolog a defnyddio’r cortyn i greu cylch o’i amgylch.
- Tynnwch linell ar draws canol y cylch.
- Dewiswch ddau bwynt ar y llinell ganolog sy’n bellter cyfartal oddi wrth y gylchlin (F1 ac F2 ar y diagram).
- Rhedwch gortyn rhwng y ddau bwynt yma a’i dynnu’n dynn i greu crych.
- Gan gadw’r cortyn yn dynn, gwnewch farc yr holl ffordd o gwmpas, fel llinell y pensil yn y diagram.
- Dylech fod ag elips llyfn.
- Sylwch sut y mae’r pellter o F1 i’r pensil a’r pellter o F2 i’r pensil yn adio i roi’r un hyd bob tro.
- Rhowch gynnig arall arni, gan ddefnyddio dau bwynt sy’n bellach i mewn neu’n bellach allan oddi wrth ei gilydd. Sylwch sut y mae’r elips yn ymddangos yn fwy crwn neu’n ymestyn yn ehangach.