Celf a Dylunio

Elipsau mewn cerflunwaith

Fe ddewisodd y cerflunydd Kenneth Martin greu breichiau ei gerflun tro yn Abertawe o elipsau. Mae’r cromliniau’n awgrymu gwrthrychau a grymoedd naturiol.

Kinetic-Monument-OystermouthRoad-Swansea.jpg

Mae’r cerflunydd David Nash yn defnyddio pren neu goed sy’n tyfu i greu ei weithiau celf. Un o’i gerfluniau mwyaf adnabyddus yw Ash Dome. Mae’n debyg i elips, wedi ei greu trwy dorri a siapio’r coed. Mae wedi bod yn ei dyfu ers 1977 ger ei gartref ym Mlaenau Ffestiniog. Mae ffilm gan Pete Telfer wedi ei recordio.

Ash Dome - David Nash

Ymweld

Gellir ymweld â:

  • Cerflun Kenneth Martin y tu allan i Ganolfan Hamdden Abertawe.