Celf a Dylunio

Chwyddo delwedd

Sut allwch chi droi braslun bach yn beintiad mawr, neu beintio murlun maint tŷ? Mae arlunwyr wedi profi’r broblem hon ers canrifoedd. Eu hateb nhw oedd tynnu llun grid.

Gallwch chi weld darluniau gyda gridiau yn dyddio yn ôl i’r Dadeni. Dyma un gan  Graham Sutherland yn y 1940au. Fe greodd frasluniau o goed drain yn Sir Benfro a chwyddo’r rhai yr oedd yn eu hoffi i greu peintiadau mawr. Gallwch weld sut yr aeth ati i ail-dynnu’r braslun yn gywir ond gan newid y lliw ac ychydig o’r manylion. Mae’r peintiad yn 127cm o uchder. Fe greodd fersiynau eraill hefyd.

Er mwyn chwyddo’r darlun bach, fe’i gorchuddiodd gyda llinellau llorweddol, fertigol a chroeslinol. Fe dynnodd yr un grid ar raddfa llawer mwy ar gyfer ei beintiad. Gallai gopïo’r peintiad un sgwâr ar y tro heb wneud unrhyw gamgymeriadau nac afluniad.

Peintiodd Ruth Jên Evans ei murlun 14m o uchder yn Nhalybont ger Aberystwyth yn 2006. Fe greodd ddarlun a rhoi grid drosto. Yna safodd ar sgaffald i gopïo pob sgwâr 0.6m ar y tro.

y-lolfa-1.jpg
Murlun Y Lolfa, Talybont ger Aberystwyth

Tasg

Byddwch chi angen papur tynnu llun, papur dargopïo, pensiliau a ffyn mesur.

Byddwch chi’n creu darlun mawr allan o ddelwedd fechan yr ydych chi’n ei hoffi.

  1. Dewiswch ddelwedd fechan, er enghraifft braslun, cartŵn, neu gerdyn post.
  2. Mesurwch a thynnwch lun grid 1cm wrth 1cm yn ofalus ar y ddelwedd neu ar bapur dargopïo ar ben y papur.
  3. Labelwch y colofnau ar draws y top yn A, B, C ac yn y blaen. Labelwch y rhesi i lawr yr ochr yn 1, 2, 3 ac yn y blaen.
  4. Ychwanegwch rai llinellau croeslinol trwy gorneli’r sgwariau.
  5. Penderfynwch faint yn fwy yr ydych chi eisiau i’r darlun newydd fod - x 2, x 3, x 4 neu’n fwy.
  6. Ar ddarn newydd o bapur, mesurwch a thynnwch lun grid arall ar faint mwy (2cm wrth 2cm, 3cm wrth 3cm, neu 4cm wrth 4cm neu’n fwy).
  7. Labelwch y colofnau a’r rhesi i gyd-fynd â’r ddelwedd fechan ac ychwanegwch y croeslinau.
  8. Tynnwch yr hyn y gallwch ei weld ym mhob sgwâr o’r llun gwreiddiol bach yn y sgwâr cyfatebol ar y papur mwy. Gwnewch un sgwâr ar y tro a defnyddiwch labeli’r colofnau a’r rhesi i ganfod y sgwâr cywir – er enghraifft A1, C10, D5.
  9. Pan fyddwch chi wedi gorffen copïo, os ydych chi eisiau fe allech chi rwbio’ch grid neu roi inc neu baent ar y ddelwedd newydd i wneud ei siŵr ei bod yn amlwg.

Gallwch ddefnyddio’r un dull i greu delwedd lai.