Celf a Dylunio

Darlunio i Raddfa

Mae Falcon Hildred wedi creu cannoedd o ddarluniau a pheintiadau gofalus i gofnodi hen adeiladau a oedd yn disgyn. Mae’n hoffi hen adeiladau gan eu bod yn dweud wrtho sut yr oedd pobl yn byw eu bywydau. Mae’n casglu cymaint o fanylion â phosibl.

Mae’r darluniau hyn o res o saith tŷ ar gyfer teuluoedd y chwarel lechi ym Mlaenau Ffestiniog yn cynnwys cymaint o fanylion fel y gallech chi eu hailadeiladu. Fe fesurodd bopeth a’i dynnu i raddfa. 

Mae darlun Rhif 1 yn dangos rhes gyfan ar raddfa o 1:200, felly mae 200cm yn y tai go iawn yn 1cm yn y darlun. Yn y canol mae cynllun yn edrych i lawr trwy’r to. Ar yr ochr chwith mae’r llawr gwaelod gyda slabiau cerrig ac ar yr ochr dde mae’n dangos  y llofft gydag estyll pren. Gallwch ddarllen ei fesuriadau mewn milimetrau rhwng pwyntiau y mae wedi’u nodi. Er enghraifft, gallwch weld bod y wal gefn yn 610mm o drwch. Ym mwthyn rhif 7 gallwch weld ei fesuriad ar gyfer y tu mewn i'r tŷ - 5,540mm o’r blaen i’r cefn a 4,120mm o un ochr i’r llall. Gallech ei fesur yn eich ystafell ddosbarth i ddychmygu sut brofiad oedd byw yn y tai bychain hyn i deuluoedd.

Mae darlun Rhif 2 yn dangos y tu mewn i dŷ ar raddfa o 1:100, felly mae 100cm yn y tŷ yn 1cm yn y darlun. Yn yr un darlun, mae manylion agos y cwpwrdd ar y gwaelod yn 1:5, felly mae 5cm mewn gwirionedd yn 1cm yn y darlun.

Falcon-Hildred-Plans.jpg
Falcon-Hildred-Plans-2.jpg

Gallwch edrych ar fwy o ddarluniau a ffotograffau o’r tai ar wefan Coflein. Gallwch hefyd weld testunau eraill a gofnodwyd gan Falcon Hildred: http://www.coflein.gov.uk/en/site/28882/details/uwchllawrffynnon-uwchllawrffynnon#archive

Ymweld

Ymweliad posibl: