Celf a Dylunio

Aflunio llythrennu

Fel arfer, byddwn yn darllen testun gan edrych yn syth arno. Os byddwch chi’n codi cylchgrawn neu’n darllen ar sgrin mae, mwy neu lai, ar ongl 90 gradd i’ch llinell edrych. Fodd bynnag, weithiau bydd dylunydd yn gwybod y bydd darllenwyr yn edrych o ongl arall. Bydd rhaid i’r llythrennu yma edrych yn gywir o’r safbwynt gydag anamorffosis [Pwnc 1].

Mae’r llythrennu ‘ARAF SLOW’ ‘BWS’ neu ‘STOP’ wedi eu hysgrifennu ar ffyrdd yn enghraifft o ddylunio anamorffig. Mae’r llythrennu’n dal iawn fel y gallwch eu darllen o ongl letraws o’n bell i lawr y ffordd mewn car. Os yw’r car yn symud yn gyflym, bydd angen i’r gyrrwr allu darllen y rhybudd o ymhellach i ffwrdd.

16.4.1.jpg

Mae gan y Llywodraeth reolau am lythrennu ar ffyrdd. Yr enw ar y ffurfdeip yma yw ‘Transport Medium’. Mae’r llythrennau o led safonol, er enghraifft mae llythyren A yn 544mm o led ac mae llythyren F yn 476mm o led.

Heb eu haflunio, mae’r llythrennau’n 560mm o hyd. Ar gyfer ffyrdd gyda chyfyngiad cyflymder o 40 milltir yr awr neu’n is, maent yn cael eu hymestyn i 1,600mm o hyd. Ar gyfer ffyrdd gyda chyfyngiad cyflymder dros 40 milltir yr awr maent yn cael eu hymestyn i 2,800mm o hyd. Yn yr achos hwn mae hyd y llythyren yn cael ei luosi â 5.

16.4.2.png
'Transport Medium'

Gallwch weld enghreifftiau eraill o lythrennu wedi ei aflunio. Er enghraifft, mae’r hysbysebion ar gaeau chwaraeon yn cael eu hymestyn er mwyn iddyn nhw edrych yn iawn o safleoedd y camerâu teledu.