Pan fyddwch chi’n argraffu rhywbeth bydd y stamp neu’r ‘bloc’ a ddefnyddiwch y tu ôl ymlaen o’i gymharu â’r ddelwedd derfynol. Mae hyn yn bwysig ar gyfer llythrennau, gan fod y mwyafrif ohonynt ond yn gweithio un ffordd. Dim ond 9 priflythyren sy’n gymesur yn y mwyafrif o ffurfdeipiau. Allwch chi weithio allan pa lythrennau yw’r rhain? Edrychwch ar ysgrifen mewn drych i weld pa lythrennau sy’n newid pan maent yn cael eu hadlewyrchu.
Tasg
Byddwch angen dalen fawr o bapur a phad inc swyddfa. Bydd pob myfyriwr angen cyllell llawfeddyg neu aing gau i gerfio leino, pensel a rhwbiwr petryal (y rhai plastig neu finyl sy’n gweithio orau).
DIOGELWCH: Cymerwch ofal mawr gyda phob cyllell llawfeddyg neu aing gau, sy’n finiog iawn. Cofiwch dorri draw oddi wrth eich llaw.
Y dasg yw i’r dosbarth ddylunio ac argraffu eu gwyddor eu hunain. Dylai pob myfyriwr greu gwahanol lythyren.
- Penderfynwch gyda’r grŵp pa lythyren o’r wyddor y byddwch chi’n ei dylunio a’i hargraffu.
- Gosodwch eich rhwbiwr yn fflat ar y bwrdd a’i wyneb i fyny.
- Dyluniwch eich llythyren mewn pensel ar y rhwbiwr. Cofiwch fod angen i’r dyluniad fod y tu ôl ymlaen, felly dylech ei wirio yn y drych.
- Gweithiwch yn ofalus iawn, gan greu toriadau siap-v i gwtogi arwyneb y rhwbiwr tua 3mm o amgylch eich llythyren. Dylai eich llythyren sefyll allan ar wyneb y rhwbiwr.
- Gwasgwch eich llythyren ar y pad inc gwpwl o weithiau.
- Gwasgwch yr ochr gyda’r inc arni’n galed ar damaid o bapur i’w phrofi. Os oes rhywbeth yn anghywir, gallwch wneud unrhyw newidiadau.
- Rhoddwch fwy o inc ar eich llythyren ac yna ei hargraffu yn ei lle cywir yn yr wyddor.
Oedd llythrennau rhai ohonoch chi y tu ôl ymlaen?
Ydi arddulliau’r llythrennau’n wahanol?
Oedd y llythrennau i gyd yn yr un raddfa â’i gilydd?