Mae dylunwyr papur wal yn defnyddio math o ffractal trwy ailadrodd siapiau o’r un maint fel eu bod yn ffitio gyda’i gilydd yn berffaith. Maen nhw’n cuddio’r ailadrodd fel bod y papur wal yn edrych yr un peth yn gyffredinol. Defnyddir yr un syniad ar gyfer papur lapio.
Cynhyrchodd y dylunydd Fictoraidd William Morris dros 50 o wahanol ddyluniadau. Byddai’n aml yn defnyddio dail a blodau. A ydych chi’n gallu gweld lle y mae’r siapiau yn cael eu hailadrodd a sut yr oedd yn eu ffitio gyda’i gilydd?
Rhai o ddyluniadau William Morris:
Defnyddiodd y dylunydd Eric Ravilious siapiau haniaethol i greu papurau â phatrwm. A ydych chi’n gallu gweld sut mae’r ailadrodd yn gweithio?
Dyluniad gan Eric Ravilious:
Mae’r fideo YouTube hwn o Amgueddfa Victoria ac Albert yn dangos dull traddodiadol o greu papur wal William Morris gyda nifer o siapiau’n cael eu hailadrodd.