Celf a Dylunio

Cyflwyniad

Addurniadau Rhufeinig

Tasg

Nid oes angen adnoddau ychwanegol.

Edrychwch ar y lluniau o’r mosaigau Rhufeinig. Beth yw siâp y darnau a ddefnyddiwyd i’w creu? Pa liwiau maen nhw’n eu defnyddio? Pa wahanol siapiau a phatrymau allwch chi eu gweld?

Dylech weld:

  • siapiau diemwnt
  • patrwm cwlwm
  • patrwm labyrinth, neu siâp sbiral
  • llinellau
  • rhannau o sgwariau
  • rhyngles, fel llun o ddwy raff wedi eu plethu gyda’i gilydd
  • calon

Cewch hyd i ragor o wybodaeth am fila Llanilltud Fawr yma.